Prosiectau
Gwaith Ieuenctid
| Gwaith Ieuenctid |
|
|
|
|
Mae Theatr Felin-fach yn Ganolfan i Waith Ieuenctid sy'n gweithredu dan adain Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion. Y Swyddog Ieuenctid yw Anna ap Robert. Nod y ganolfan yw i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddatblygu eu potensial fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau trwy gyfrwng profiadau Drama, Theatr, Dawns a Symud, a'r celfyddydau yn gyffredinol. Anelir at gyflawni'r nod uchod trwy gynnal rhaglen o weithgareddau a fydd yn hyrwyddo
Gweithredir polisi drws agored o ran cefndir ieithyddol neu ddiwylliannol, abledd corfforol a gallu addysgol. Ymhlith ein Prosiectau Gwaith mae'r Clwb Drama, Cwmni Cadw Sŵn, CIC! (Cwmni Theatr Ieuenctid Ceredigion). I darllen mwy am rhain llwythwch y ddogfen Gwaith Ieuenctid, neu i drafod unrhyw un o'r pethau uchod cysylltwch â'r Swyddog Ieuenctid. I ddysgu mwy am brosiectau eraill Theatr Felin-fach dilynwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen. |