Skip to content

Theatr Felinfach

default color black color red color
Cartref arrow Prosiectau
Gwaith Ieuenctid PDF Argraffu Ebost

Mae Theatr Felin-fach yn Ganolfan i Waith Ieuenctid sy'n gweithredu dan adain Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion. Y Swyddog Ieuenctid yw Anna ap Robert.

Nod y ganolfan yw i  ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddatblygu eu potensial fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau a chymunedau trwy gyfrwng profiadau Drama, Theatr, Dawns a Symud,  a'r celfyddydau yn gyffredinol. Anelir at gyflawni'r nod uchod trwy gynnal rhaglen o weithgareddau a fydd yn hyrwyddo

  1. Datblygiad cymdeithasol
  2. Datblygiad personol
  3. Datblygu sgiliau ymarferol a
  4. Chynnal a chodi ymwybyddiaeth o waith y ganolfan trwy Gymru wledig

Gweithredir polisi drws agored o ran cefndir ieithyddol neu ddiwylliannol, abledd corfforol a gallu addysgol.

Ymhlith ein Prosiectau Gwaith mae'r Clwb Drama, Cwmni Cadw Sŵn, CIC! (Cwmni Theatr Ieuenctid Ceredigion). I darllen mwy am rhain llwythwch y ddogfen Gwaith Ieuenctid, neu i drafod unrhyw un o'r pethau uchod cysylltwch â'r Swyddog Ieuenctid.

I ddysgu mwy am brosiectau eraill Theatr Felin-fach dilynwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen.