Skip to content

Theatr Felinfach

default color black color red color
Cartref arrow Gwybodaeth
Hanes y Theatr PDF Argraffu Ebost
Sefydlwyd Theatr Felin-fach ym 1972 gan Adran Addysg, Cyngor Sir Aberteifi.  Roedd y cyngor eisoes yn y 1960au wedi sefydlu swydd Trefnydd Drama o fewn y sir.  Gwaith y trefnydd oedd darparu hyfforddiant i ddisgyblion ac athrawon yn yr ysgolion ac i oedolion a phobl ifainc yn y cymunedau a'r neuaddau pentref.  Disgwylid hefyd i'r trefnydd lwyfannu dramâu o fewn y sir.  Yn sgîl llwyddiant y rhaglen waith a luniwyd ac a weinyddwyd gan y trefnydd, penderfynwyd mai da o beth fyddai sefydlu canolfan bwrpasol i ddatblygu'r gwaith creadigol hwn ymhellach.

Addaswyd hen weithdy cywiro peiriannau amaethyddol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd i fod yn theatr newydd ag adnoddau modern, a chyfarpar technegol o'r radd flaenaf.

Agorwyd y Theatr yn swyddogol ym mis Mai 1972 ac ers ei sefydlu, darparwyd rhaglen lawn o berfformiadau proffesiynol, yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau a phrosiectau sy'n defnyddio drama a chyfryngau theatr fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion ac yn y gymuned.